Home Discussion North Wales Blogs O'r Maes - From the Maes

Pobl sy'n gwneud Eisteddfod

Posted by Eryl Crump on August 5, 2008 7:24 AM | 

Dywedodd Elfed Roberts, prif weithredwr y Eisteddfod, fod angen arian, safle a pobl i sicrhau Eisteddfod lwyddiannus.

Heb safle, meddai, does dim posib cynnal yr wyl. Does dim diben chwilio am Faes heb arian ond yn fwy na dim rhaid cael pobl. I drefnu ac i ymweld.

Hyd yn hyn mae Eisteddfod Caerdydd wedi bod yn hynod llwyddianus, yn denu dros 50,000 o ymwelwyr i'r Maes, llawer ohonynt yn Gymry di-Gymraeg lleol. Mae na rai sydd wedi dod draw i weld be sy'n digwydd ond mae na fwy yn dod draw am reswm. Maent wedi mynd ati i ddysgu'r iaith neu mae ganddynt berthyn neu gyfaill sy'n cystadlu neu cymeryd rhan.

Rydym wedi dod dipyn o ffordd mewn byr amser. Dwi'n cofio gofio i lanc ifanc yn ardal Bute be oedd yn mynd ymlaen yng Nghanolfan y Mileniwm yn ystod Eisteddfod yr Urdd yn 2005. "Dunno," meddai, yn cymeryd drag ar ei smoc, "symmin Welsh innit."

Er fod elfen o hynny'n parhau mae'r bobl rwyf wedi siared a hwy yng nghanol y ddinas yn gwybod mwy am yr Wyl hon.

Ond mae na fobl ddiddorol eraill hefyd.Dyna chi Gabriel Restucha. Maer tref y Gaiman. Tref Gymreica y Wladfa. Daw ei enw o dras Eidalaidd ond mae gwreiddiau ei deulu yn ddwn yng nghymoedd y De ac yn ysblander Meirionydd. Er nad oedd Cymraeg ar ei aelwyd cymerodd ddiddordeb yn yr iaith ac bellach mae'n rhugl. Mae'n codi cywilydd ar nifer o gynghorwyr sy'n credu mai ond yn Seasneg gallent gyflwyno pwyntiau pwysig yn y siambr. Yn wir mae Gabriel yn codi cywilydd ar nifer fawr of Gymry Cymraeg gyda glowder ei iaith.

Mae draw yng Ngaerdydd i annerch cydeithas Cymru-Ariannin dydd Iau. Gwerth fynd draw i babell y cymdeithasau i'w glywed.

Cymeriad arall yw T Elwyn Griffiths, Caernarfon. Mae ganddo record anhygoel. Ers 60 o flynyddoedd dydio ddim wedi colli'r un Eisteddfod. Yn fwy na hynny mae wedi bod ar Faes y Brifwyl bod dydd. Ewadd.

Ac yn dilyn y stori ddoe bod banc lleol wedi anghofio rhoi pres yn y peiriant twll yn y wal cefais wybod fod rhywn wedi anghofio sicrhau cyflenwad dwr i babell Eglwys y Bedyddwyr mewn prifwyl flaenorol ac yn fwy diweddar bod y cyflenwad trydan wedi methu ym mhabell cwmni sy'n cynhyrchu trydan gyda melinau gwyn.


 

0 TrackBacks

Listed below are links to blogs that reference this entry: Pobl sy'n gwneud Eisteddfod.

TrackBack URL for this entry: http://ormaes.northwalesblogs.co.uk/cgi-bin/mt421/mt-tb.cgi/84411

Comments (0)

Post a comment

(If you haven't left a comment here before, you may need to be approved by the site owner before your comment will appear. Until then, it won't appear on the entry. Thanks for waiting.)

Search this blog

November 2008
Sun Mon Tue Wed Thu Fri Sat
            1
2 3 4 5 6 7 8
9 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30            
 

Older posts are in the Archives

  



Profile


ormaesheader.jpg

Join Daily Post reporter Eryl Crump as he reports from the Urdd Eisteddfod in Conwy.

Categories

Tag cloud...

Useful links