Dydi amser yn gwibio. Fedrai ddim coelio fod na 30 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i Brifwyl Cymru ymweld a'r Brifddinas. Ond mae'n wir ac mae'r hwyl wedi dechrau.
Ar ddiwrnod braf o haf mae strydoedd y ddinas yn orlawn o fobl a burlwm y ddinas tu allan i fy ffenestr. Mae gwesty'r Daily Post eleni cyn agosed a sydd posib i fod i'r Maes felly fe fyddwn yn rhan o'r bwrlwm hwnnw.
Yn ystod yr wythnos nesaf fe fydd yr ebillion hyn yn ogystal a'r papur newydd a'r wefan - www.dailypost.co.uk - yn dod a newyddion prif ddigwyddiadau'r Eisteddfod - a chyn gymaint o'r digwyddiadau eraill sy'n bosibl sgwennu amdanynt - i chi'r darllenwr.
Cofiwch ddanfon neges os ydych yn dymuno - ond plis, dim yr hysbysebion a ffisig a thablets!
