Wel mae Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Conwy 2008 wedi dechrau. Mae na gannoedd o geir yn y maes parcio yn barod a dwsinau o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan yn eu rhagbrofion. Fe fydd y cystadlu'n dechra ar lwyfan y Pafiliwn toc wedi 11.30am.
Ond i nifer helaeth o fobl penllanw ydy'r cychwyn. Mae tir (sych) Gloddaeth Isa, Glanwydden wedi ei weddnewid o gaeau silwair i dref fechan mewn llai na chwe wythnos gan gontractwyr prysur. I'r pwyllgor trefnu mae hyn yn ddiweddglo gwaith prysur dros fwy na dwy flynedd. Dywedodd cadeirydd y pwyllgor gwaith, Dilwyn Price, neithiwr ei fod yn barod yn edrych ymlaen ar gyfer yr Eisteddfod nesaf yng Nghonwy. Cymeriad ydy Dilwyn! Fe gewch glywed mwy gan Dilwyn mewn cyfweliad ar y we.
