Mae'r gwynt wedi gostegu ond yn hytrach na'r haul yn tywynnu mae'n bwrw!
Oleia mae hyn yn rhoi fwy o reswm i fynd o stondin i stondin ac yn gwario ychydig mwy o maser ynddynt nag arfer.
Ymhlith y trysorau ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol mae rhai o luniau'r diweddar Geoff Charles o Eisteddfod yr Urdd, Llanrwst 1968.
Yr Eisteddfod honno oedd y cyntaf i mi gael fy ngollwng yn rhydd. Fel disgybl blwyddyn gyntaf yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog roedd na gyfle i ni fynd draw i fwynhau'r wyl. Nid hon oedd y tro cynta i mi fod yn Eisteddfod yr Urdd. Cefais brynhawn yn Eisteddfod Porthmadog yn 1964 a chyfnod byrrach yng Nghaergybi yn 1966. A bod yn onest does gennai fawr o go o'r r'un digwyddiad ond mae'r lluniau yn dod ag atgofion yn ol.
Os gewch y cyfle ewch darw i'w gweld.
