Fuasia ddim yn Steddfod heb son am y tywydd. Glaw, mwd, haul crasboeth mae nhw i gyd wedi eu cael eu dioddef neu mwynhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ond does neb yn cofio'r fath wynt.
Yn ystod ddoe roedd y gwynt dwyreiniol yn chwythu dros 40 milltir yr awr. Doedd dim byd wedi ei falu na neb wedi ei anafu ond dyweddodd Elin o Landwrog fod aros yn y garafan neithiwr fel "cysgu ar long". Fu rhaid i'r teulu godi'n aml i sicrhau fod yr adlen yn sownd. Ac wedyn roedd rhaid iddynt fynd ati i gystadlu. Da hogia!
Rwyf newydd ffonio'r swyddfa dywydd ac maent yn gaddo bydd yr haul yn tywynu cyn diwedd y bore. Fe gawn weld.
