Mi fyddai'n clywed drysau'r Pafiliwn yn clepian yn fy ghwsg heno. Y gwynt cryf sy'n achosi i'r drysau wneud swn mawr wrth gau. Mae'r gwynt wedi achosi i'r arweinydd profiadol hwnnw, Nic Parry, rybuddio'r stiwardiad sawl gwaith am berygl drysau'n clepian. (does neb yn gwybod yn well na Nic perygl y fath beth a fynta'n dwrna a barnwr).
Ond gwell gwynt cryf na glaw ac mae hwnnw wedi cadw draw heddiw ac mae wedi bod yn ddiwrnod llwyddianus iawn o gystadlu, cyfarfod hen ffrindia a gwneud rhai newydd.
Ar y llwyfan ar hyn o bryd mae ennillwyr medalau y gwaith cartref yn derbyn eu gwobrau. Dim ond llond dyrniad sy'n derbyn anrhydedd o gael bod ar lwyfan prifwyl yr Urdd ond mae na gannoedd o ennillwyr i gyd. Ac am bob ennillydd mae na ddwsinau mwy wedi cystadlu. Gan fy mod wedi bod yn brysur yn paratoi'r rhestr enwau ar gyfer eu cyhoeddi yn y Daily Post gallwn ddweud fod rhain o bob cwr o Gymru. Rhyfedd o beth bod yr Urdd wedi treiddio i fewn i bob twll a chongl yn y wlad fechan hon. Mae dipyn o gamp hefyd o gofio bod cymaint o alw ar amser athrawon y dyddia hyn.
Heno mae'r caneuon actol ar y llwyfan. Syniad dda oedd symud y cystadleuaeth i'r gyda'r nos. Mae cymaint o waith paratoi yn mynd i baratoi plant i ganu a dawnsio am tua 10 munud ac mae'r gwisgoedd a cholur yr un mor bwysig. Dwi'n cofio fwy nag unwaith gweld plentyn yn cymeryd rhan mewn unawd adrodd neu ganu tra'n gwisgo ei wisg lliwgar ar gyfer y gan actol. Doedd o ddim yn plesio pob beirniad coeliwch fi.
