Diwrnod y Dysgwyr oedd hi heddiw ac roedd yn bleser cael sgwrs gyda Rachel Perry, ennillydd Medal y Dysgwyr am eu gwaith llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg.
Cefais hefyd y pleser o siared gyda dysgwyr iau - plant o Ysgol Glanwydden, Bae Penrhyn oedd yn cyflwyno barddoniaeth o lyfr newydd sbon - Sgram.
Rhywsut neu gilydd mae'r Gymraeg yn adfywio. Mae'n cwl bellach i siared Cymreag, nid fel yn ysgol Blaenau ers stalwm lle roedd pawb yn siared Cymraeg ond y dysgu i gyd yn Seasneg. Fel canlyniad roedd na un neu ddau o'm cyfoedion yn siared Saesneg hefo'i gilydd er bod y Gymraeg yn iaith naturiol iddynt.
Dywedodd Rachel ei bod wrth ei bodd yn clywed y Gymraeg yn cael ei siared ac yn gwneud pob ymdrech i ymarfer gymaint a sydd bosib. Mae'n haws, meddai, yng Nghaerdydd y dyddiau yma. Dydi hi ddim yn medru dychmygu Cymru heb y Gymraeg. Cewch glywed mwy gan Rachel, a'r plant yn darllen barddoniaeth, ar y wefan.
(Ysgrifenwyd y pwt yma neithiwr ond am resymau technegol dim ond bore ma mae'n cael ei gwblhau.)
