Dyna wahaniaeth mae dipyn o haul yn ei wneud.
Ar ol glaw trwm ddoe mae'r haul yn gwneu ar faes yr Eisteddfod heddiw ac mae'r heulwen cynnes wedi rhoi gwen fawr ar y cystadleuwyr ac ar drefnywr yr wyl.
Cadeiro'r prif lenor ydy prif ddigwyddiad y pafiliwn heddiw ond ar gyrion y maes mae llawer yn digwydd. Mae'r enwog Glyn Wise yn mynd i lansio ymgyrch i gyhoeddi i'r byd for dysgu Cymraeg yn Cwl. Does ond rhaid i rywun roi ei drwyn i fewn i'r Eisteddfod i weld fod hynny'n cael ei wireddu'n barod.
Bellach ymlaen bydd y Comisiynydd Plant yma i lansio ymgyrch i sicrhau gwell hawliau i blant. Eisioes mae gan plant Cymru lu o hawliau nad ydynt ar gael gan eraill.
Ac ni ddylid anghofio'r prif gystadleuaeth ar y Maes. Darganfod pwy sy'n edrych fel Ffarmwr Ffowc. Gwelai chi no fuan.
